P-06-1365 Ail-agor llinellau rheilffordd i gysylltu gogledd a de Cymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Elfed Wyn ap Elwyn, ar ôl casglu cyfanswm o 12,936 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae’r daith rhwng gogledd a de Cymru bob amser yn un hir, yn enwedig wrth ddefnyddio’r rheilffyrdd. Mae teithio ar y trên rhwng Bangor a Chaerdydd yn golygu bod rhaid i rywun fynd y tu allan i Gymru i allu cyrraed pen y daith.
Mae angen i’r rheilffyrdd gysylltu Cymru yn fewnol. Y cynllun ar gyfer gwneud hyn fyddai ail-agor llinellau Bangor - Afon-wen ac Aberystwyth i Gaerfyrddin, ac integreiddio’r rhain â lein y Cambrian, a’r lein o Gaerfyrddin i Gaerdydd.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Dyma’r hyn y mae’r ddeiseb hon yn gofyn yn benodol amdano:
- Astudiaeth Gwmpasu a Dichonoldeb ar gyfer y lein rhwng Bangor ac Afon-wen
- Ymrwymiad i wario unrhyw arian a geir gan San Steffan ar gyfer y rheilffyrdd ar adfer llinellau rheilffyrdd
- Datblygu glasbrint o’r llwybr rheilffordd rhwng Bangor a Chaerdydd o ran y llwybr arfaethedig
- Edrych ar lwybrau eraill o fewn Cymru y byddai eu hailagor yn fuddiol ar lefel genedlaethol ac ar lefel leol
Os ydym am ddatblygu seilwaith Cymru, a defnyddio dull gwyrddach o deithio, byddai adfer ac ailagor y rheilffyrdd hyn yn gam i’r cyfeiriad cywir a fyddai hefyd o fudd nid yn unig i bob cymuned ar hyd y rheilffordd, ond i Gymru fel gwlad.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Dwyfor Meirionnydd
· Canolbarth a Gorllewin Cymru